Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 17
Ionawr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
(10 munud)
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am atal cyllid Llywodraeth Cymru i NSA Afan?
(10 munud)
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Mark Reckless (Dwyrain De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol tollau ar Bontydd Hafren?
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(45 munud)
Dogfen ategol
Y
cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar
fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru
(90 mins)
NDM6203 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau ym Mil Cymru, i'r graddau eu bod yn dod o dan gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn ei addasu, barhau i gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Tachwedd 2016 a gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Ionawr 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
Bill documents — Wales Bill 2016-17 — UK Parliament (Saesneg yn unig)
Dogfennau ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol
Memorandwm Esboniadol yn
ymgorffori’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a’r Nodiadau
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6200 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei lunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Rhagfyr 2016.
Dogfennau Ategol
Rheoliadau
Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r
Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2017
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM6201 Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd sy'n ymwneud â chael a rhannu gwybodaeth am gynhyrchion y gwasanaeth iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
Bill documents — Health Service Medical Supplies (Costs) Bill 2016-17 — UK Parliament (Saesneg yn unig)
Dogfennau ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
(60 munud)
NDM6202 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2017-2018 (Setliad Terfynol – Cynghorau). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Rhagfyr 2016.
Dogfen ategol
Adroddiad
Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2017-2018 (Setliad Terfynol
– Cynghorau)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 18 Ionawr 2017